Mae'n debygol eich bod wedi cyrchu'r adnoddau hyn ar Gam-drin Ysbrydol am un o dri rheswm:
Nod yr adnoddau hyn yw rhoi cymaint o wybodaeth â phosibl i chi i'ch helpu i ddeall beth sydd wedi ei brofi, sut y gallai effeithio arnoch chi (neu'r person rydych chi'n ei gefnogi) ac i'ch grymuso (neu'r person rydych chi'n ei gefnogi) i gymryd camau ar eich taith (eu) i leihau'r effaith.
Er bod yr adnoddau hyn wedi'u hysgrifennu o safbwynt y rhai sydd wedi profi cam-drin ysbrydol mae'n bwysig ein bod ni'n deall bod profiad neb nac effaith y profiad hwnnw yn mynd i fod yr un fath. Mae ymateb pob person i'w brofiad hefyd yn mynd i fod yn wahanol. Rydym felly wedi tynnu ar ystod eang o brofiadau, ffydd a chefndiroedd diwylliannol. Rydym hefyd wedi tynnu ar negeseuon o ymchwil ynghylch profiad, effaith a'r daith i leihau effaith cam-drin ysbrydol.